CELG(4) HA 08

 

Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

Ymchwiliad i Addasiadau yn y Cartref

 

Ymateb gan : Care & Repair Cymru


1.             Amdanom Ni

 

Care & Repair Cymru (C&RC) yw "Hyrwyddwyr Tai Pobl Hŷn". Rydym yn gorff elusennol cenedlaethol sy'n gweithio i sicrhau fod gan bob person hŷn gartref diogel, clyd ac addas ar gyfer eu hanghenion. Mae gan Care & Repair Cymru ymrwymiad i wella iechyd a lles pobl hŷn yng Nghymru drwy roi cyngor a chymorth gyda gwelliannau tai, addasiadau ac atgyweiriadau cyffredinol. Mae C&RC yn rhan o strwythur grŵp gyda Cartrefi Cymunedol Cymru a Chanolfan Rhagoriaeth Adfywio Cymru ac ar y cyd yn hyrwyddo tai dim-er-elw, gofal ac adfywio.

 

Mae C&RC yn gweithio mewn partneriaeth gyda nifer o sefydliadau yn cynnwys Llywodraeth Cymru, timau Tai a Gofal Cymdeithasol llywodraeth leol, y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, therapyddion galwedigaethol, cyrff trydydd sector megis Cynghrair Henoed Cymru, Comisiynydd Pobl Hŷn a chymdeithasau tai i sicrhau fod gan bobl hŷn fynediad i amrywiaeth o ddatrysiadau tai a chymdeithasol sy'n eu galluogi i fyw mewn tai sy'n diwallu eu hanghenion unigol.

 

Mae 22 Asiantaeth Gofal a Thrwsio yn rhoi gwasanaeth rhyngddynt ym mhob rhan o Gymru. Mae pob asiantaeth yn darparu ystod eang o wasanaethau a chefnogaeth ar gyfer pobl hŷn a bregus, gan eu helpu i barhau i fyw'n annibynnol yn eu cartrefi a'u cymunedau eu hunain. Bob blwyddyn darparwn wasanaethau i tua 30,000 o bobl hŷn, gyda llawer ohonynt yn derbyn help gydag addasiadau tai.

 

2.         Sylwadau cyffredinol.

 

Mae Care & Repair Cymru yn croesawu’r cyfle hwn i ddarparu tystiolaeth i'r Ymchwiliad ar Addasiadau yn y Cartref.

 

Mae'n hysbys iawn ein bod yn byw mewn cymdeithas sy'n heneiddio. Yn ei gyhoeddiad 'Adding Life to Years', dywedodd John Osmond (Sefydliad Materion Cymreig) y bydd nifer y bobl dros 65 yng Nghymru yn cynyddu gan tua 5% yn y 10 mlynedd nesaf, cynnydd o 130,000, ac y bydd nifer y bobl dros 85 oed yn cynyddu gan 30,000. Yn y 60 mlynedd nesaf bydd nifer y bobl yn y Deyrnas Unedig sy'n 65 oed neu drosodd yn mwy na threblu o 4.6 miliwn i 15.4 miliwn, ac yn yr un amserlen, yn ôl adran actiwaraidd Llywodraeth y Deyrnas Unedig, bydd nifer y bobl ifanc 100 oed yn cynyddu o 10,000 i 1 miliwn. Disgwylir y bydd hanner y babanod a gafodd eu geni yn y Deyrnas Unedig heddiw yn cyrraedd eu 100 oed yn ôl y cylchgrawn meddygol The Lancet. Mae Care & Repair Cymru yn credu fod heneiddio yn un o'r materion polisi cyhoeddus pwysicaf sy'n wynebu Llywodraeth Cymru ac mae'n bwysig bod polisi ac ymarfer da a thargedu adnoddau'n digwydd i ymdopi gyda'r cynnydd enfawr mewn angen ar gyfer gwasanaethau gan bobl hŷn, yn cynnwys gan y GIG, Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai.

 

Mae rôl tai ac addasiadau tai yn neilltuol yn bwysig. Mae gwasanaethau megis y rhai a gyflwynir gan Gofal a Thrwsio, ac addasiadau tai yn gyffredinol yn atal yr angen am wasanaethau drutach y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a gofal preswyl. Ar gostau iechyd, dywedodd The Independent fod codymau ymysg pobl hŷn yn costio £4.6 miliwn y diwrnod neu £1.7 biliwn y flwyddyn i'r GIG yn y Deyrnas Unedig. Amcangyfrifwyd fod oedi wrth ryddhau gofal yng Nghymru yn costio £30 miliwn y flwyddyn i'r GIG yng Nghymru. Amcangyfrifodd adroddiad diweddar BRE ar gyfer Shelter Cymru fod tai gwael ac anaddas yn costio £56 miliwn y flwyddyn i'r GIG, gyda mwyafrif y costau oherwydd codymau ymysg pobl hŷn.

 

Yng nghyswllt costau gofal preswyl, daeth astudiaeth ddiweddar mewn awdurdod lleol yng Nghymru i'r casgliad fod darparu addasiadau amserol yn y cartref yn gostwng yr angen am ymweliadau gofal dyddiol, yn gallu gostwng neu ddileu costau pecynnau gofal cartref ac yn gohirio mynediad i ofal preswyl gan 4 blynedd ar gyfartaledd. Amcangyfrifwyd fod cost gofal preswyl fesul achos y flwyddyn £19,760. Gyda chost Grant Cyfleusterau i'r Anabl tua £7000 ar gyfartaledd, roedd hyn yn gyfwerth ag arbediad cost o £72,000 yr achos am addasiad amserol. Mewn geiriau eraill, mae pob blwyddyn o ohiriad yn darparu Grant Cyfleusterau i'r Anabl yn costio £18,000 i Ofal Cymdeithasol.

 

Yng Nghymru, mae gennym Raglen Addasiadau Brys a ddarperir gan Gofal a Thrwsio ac a gaiff ei hariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae'r Rhaglen Addasiadau Brys yn gweithio drwy gael swyddogion iechyd neu wasanaethau proffesiynol i atgyfeirio cleientiaid ar gyfer gwaith cymharol rad sydd un ai'n eu cael allan o'r ysbyty ac yn ôl adref, neu'n golygu nad yw'n rhaid iddynt fynd i ysbyty yn y lle cyntaf. Dim ond £135 yw cost swydd ar gyfartaledd. Rydym wedi gwneud amcangyfrif ceidwadol o wybodaeth a gasglwyd dros y 10 mlynedd diwethaf fod pob punt a werir ar y Rhaglen Addasiadau Brys yn arbed tua £7.50 i'r Gwasanaeth Iechyd/Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae'r holl bartneriaid yn cydnabod fod y rhaglen yn effeithiol ac effeithlon, eto mae mwy o alw nag o gyllid ar gael a bu'n rhaid dogni'r rhaglen.

 

Yn gryno, mae addasiadau amserol yn cyfrannu’n sylweddol at lawer o amcanion strategol Llywodraeth Cymru yng nghyswllt pobl hŷn, gwasanaethau ail-alluogi, ataliaeth, ymyriad cynnar a helpu i gadw pobl hŷn yn byw'n annibynnol yn eu cartrefi cyhyd ag sydd modd. Dywed pobl hŷn mai eu dymuniad yw byw’n annibynnol yn eu cartrefi a'u cymunedau eu hunain, mewn termau cymdeithasol ac ariannol, ac mae'n ddatrysiad gwell a llawer mwy effeithlon o ran cost.

 

Felly, croesewir craffu pellach ar y system addasiadau, o gofio am yr oedi annerbyniol sy'n dal i wynebu ein cleientiaid. Mae'r ffocws ar Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl (GCA) serch hynny yn rhy gul. Dim ond un o lu o lwybrau cyllid a dulliau sydd ar gael i ddarparu addasiadau tai yw hyn, er bod y GCA yn rhan sylweddol a phwysig o waith addasu. Credwn hefyd y dylai Ymchwiliad y Pwyllgor groesgyfeirio at yr adolygiad arfaethedig o addasiadau yn y cartref a oedd yn ymrwymiad gan y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth yn y Papur Gwyn ar Dai (ac sydd eisoes wedi dechrau). Ar ôl dweud hynny, mae ein sylwadau penodol ar y cwestiynau a ofynnir gan y Pwyllgor fel sy'n dilyn:

 

3.         Pam bod yr amser a dreulir yn dosbarthu cymhorthion ac addasiadau a arienni gan Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl yn amrywio'n sylweddol ledled Cymru?

 

Mae amrywiadau sylweddol yn bodoli oherwydd y gwahanol ffyrdd y mae gwahanol awdurdodau lleol yng Nghymru yn darparu GCA a gwasanaethau addasu. Mae'r rhai a goleddodd yr arfer gorau a amlinellwyd yn Adolygiad Jones ar gyfer Llywodraeth Cymru (a gyhoeddwyd yn 2005), yr Adolygiad dilynol o adroddiad y Pwyllgor Cyfle Cyfartal yn 2009 ac arfer gorau yng nghyswllt gweithio partneriaeth yn ddiwahân yn cyflenwi gwasanaethau addasu cyflymach a mwy effeithlon o ran cost. Yn gryno, mae'r ymarfer gorau hwn yn:

 

Ø  Gweithio'n agos gyda Gofal a Thrwsio wrth ddarparu addasiadau llai drwy addasiadau'r Rhaglen Addasiadau Brys a/neu Grantiau Byw Annibynnol.

Ø  Darparu mân addasiadau drwy brosesau llai biwrocrataidd (e.e. awdurdodau lleol yn defnyddio hyblygrwydd dan Bŵer Diwygio Rheoleiddiol i Ddarparu Cymorth 2002 i wneud addasiadau llai, ailadroddus yn gyflymach, yn aml heb ddefnyddio prawf modd neu asesiad therapydd galwedigaethol)

Ø  Gweithredu cofrestrau tai hygyrch (mewn partneriaeth gyda chymdeithasau tai lleol) lle caiff tai wedi eu haddasu ei baru a'i ddyrannu i'r rhai sydd ei angen yn hytrach na chymryd addasiadau a gosod fel tai anghenion cyffredinol.

Ø  Sicrhau y defnyddir cyllid arall ar gyfer tenantiaid tai cymdeithasol hy MRA ar gyfer tenantiaid cyngor a PAG ar gyfer tenantiaid cymdeithasau tai, gan felly sicrhau yr aiff cyllid GCA ymhellach ar gyfer perchnogion cartrefi.

Ø  Lle trosglwyddwyd y swyddogaeth landlord tai cymdeithasol drwy drosglwyddo stoc, sefydliadau trosglwyddo stoc yn cynnwys cost addasiadau'r dyfodol i gyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru yn eu Cynlluniau Busnes.

Ø  Yr angen i awdurdodau lleol roi blaenoriaeth ddigonol ac felly gyllid, i raglenni GCA o'r setliadau cyfalaf cyffredinol heb ei neilltuo gan Lywodraeth Cymru. Yn y bôn, unwaith y bydd awdurdodau wedi symleiddio eu systemau a gweithredu arfer gorau, mae angen yn dal i fod i roi cyllid digonol i GCA i ddiwallu anghenion GCA gorfodol, a arweinir gan alw. Dywedir yn aml y caiff GCA eu gohirio tuag at diweded y flwyddyn arian gan "fod yr arian wedi rhedeg allan". Mae hyn yn amlwg yn cynnwys gohiriadau ac amserau aros GCA.

 

4.         A wnaed cynnydd digonol wrth weithredu argymhellion adroddiad y Pwyllgor Cyfle Cyfartal yn 2009 ar addasiadau yn y cartref?

 

Yn dilyn adolygiad y Pwyllgor yn 2009, arweiniodd Care & Repair Cymru wrth ddatblygu gwybodaeth well ar GCA ac addasiadau tai yn gyffredinol (mewn copi caled a hefyd ar y we), a chynhyrchu gwybodaeth gyhoeddusrwydd mewn partneriaeth gyda'r Coleg Therapyddion Galwedigaethol, Age Cymru a'r Comisiynydd Pobl Hŷn. Fodd bynnag, teimlwn fod rhai rhannau o Adolygiad 2009 nad ydynt efallai wedi eu hybu'n ddigonol. Mae hyn yn cynnwys:

Ø  adolygiad mwy ffurfiol o gynnydd awdurdodau lleol wrth weithredu Adolygiad Jones 2005

Ø  rhoi cymorth lle canfyddir arfer gwael, a datblygu dull parhaus ar gyfer rhannu arfer da

Ø  Llywodraeth Cymru i benderfynu ar ardaloedd awdurdodau lleol lle medrid gwella gweithio partneriaeth ac ymchwilio'r potensial i Fyrddau Gwasanaeth Lleol hybu gwell gwaith partneriaeth

Ø  Yr angen am arfer da eang ar gofrestri tai wedi eu haddasu a systemau dyrannu tai wedi eu haddasu.

 

Hefyd mae'n aneglur os cynhaliwyd yr ymchwiliad a argymhellwyd gan Lywodraeth Cymru i nifer therapyddion galwedigaethol awdurdodau lleol (i ateb y galw mewn cymdeithas sy'n heneiddio) ac, oherwydd hyn, os yw awdurdodau lleol wedi cynllunio'n ddigonol ar gyfer anghenion gweithlu'r dyfodol ar gyfer therapyddion galwedigaethol.

 

5.         Pa effaith y mae gostyngiad mewn adnoddau ar gyfer tai yn debygol o'i chael ar ddarparu addasiadau yn y cartref?

 

Mae cyllid yn elfen bwysig iawn o berfformiad GCA. Bydd y Pwyllgor yn gwybod nad oes unrhyw ddarpariaeth cyllid wedi'i neilltuo ar gyfer awdurdodau lleol ar gyfer GCA, a bod pob awdurdod lleol yn penderfynu ar y swm o gyllid y mae'n dymuno eu dyrannu ar gyfer GCA o'i ddyraniad cyfalaf cyffredinol. Yn y cyswllt hwn, mae awdurdodau lleol yn penderfynu os byddant yn gostwng cyllid ar gyfer GCA ac yn gwneud y penderfyniadau hyn yng ngoleuni blaenoriaethau a phwysau eraill.

 

Er ei bod yn amlwg yn bwysig i weithio mewn partneriaeth gyda sefydliadau trydydd sector fel Gofal a Thrwsio, i ddatblygu a gweithredu polisi ac arfer da ar gyfer darparu GCA ac addasiadau yn y cartref, a symleiddio systemau i'w gwneud yn fwy effeithiol, gyda mwy o ffocws ar gleientiaid a llai biwrocrataidd, os nad oes unrhyw gyllid ar ddiwedd hyn, mae'n anochel y bydd amserau aros GCA yn cynyddu. Caiff effaith hyn ei chwyddo wrth i'r galw am GCA ac addasadau gynyddu - mewn geiriau eraill, bydd galw yn y cynnydd ynghyd â llai o gyllid yn arwain at amserau aros llawer hirach.

 

6.         A yw Llywodraeth Cymru'n monitro'n effeithiol y modd y mae gwasanaethau addasu yn cael eu darparu?

 

Bydd y Pwyllgor yn gwybod bod dangosydd perfformiad statudol ar gyfer GCA sy'n mesur yr amser a gymerir rhwng i'r cleient gysylltu gyntaf am awdurdod lleol am GCA hyd gwblhau'r gwaith. Yn 2011, roedd yr amserau aros ledled Cymru'n amrywio o 180 diwrnod (cyflymaf) i 638 diwrnod (hiraf), gyda chyfartaledd Cymru o 326 diwrnod. Mae'n deg dweud fod hyn ar welliant o 2004 (pan oedd yr amser cyfartalog ar draws Cymru yn 595 diwrnod) a 2005 (pan gyhoeddwyd Adolygiad Jones ar gyfer Llywodraeth Cymru ac roedd gan dri awdurdod amser aros cyfartalog o fwy na 1000 diwrnod).

 

Gellid dod i'r casgliad mai'r Dangosydd Perfformiad statudol ac argymhellion eraill a gyflwynwyd yn dilyn Adolygiad Jones sydd wedi gyrru'r gwelliant hwn. Fodd bynnag, mae hefyd yn iawn i ddweud fod y cyfnod cyfartalog cyfredol o 326 diwrnod yn dal yn llawer rhy hir a bod angen gwella pellach, yn neilltuol gan yr awdurdodau lleol hynny sy'n cymryd mwyaf o amser.

 

Fel y dywedir uchod, er bod yr wybodaeth ar Ddangosyddion Perfformiad ar gael ac yn cael ei fonitro, mae Care & Repair Cymru yn teimlo y gellid gwneud mwy i fonitro cynnydd awdurdodau lleol wrth weithredu arfer gorau o'u hadolygiadau blaenorol, rhoi cymorth lle canfyddir arfer gwael, datblygu dull parhaus ar gyfer rhannu arfer da a phenderfynu ym mha ardaloedd y gellid gwella gweithio partneriaeth.

 

7.         Beth mwy sydd angen ei wneud i wella gwsanaethau addasu yn y cartref yng Nghymru?

 

·         Mae gwella gwasanaethau ynghylch cysondeb, arfer gorau a gweithio partneriaeth yn her fawr fel y dynodwyd yn 3) uchod. Mae Care & Repair Cymru yn credu y bydd gweithredu adolygiadau blaenorol yn llawn, ynghyd â'r pwyntiau canlynol penodol yn gwella gwasanaethau addasu ar draws Cymru yn sylweddol.

·         Dylid ehangu'r Rhaglen Addasiadau Brys, a gydnabyddir fel arfer da mewn darparu addasiadau bach, gyda chynnydd mewn cyllid (yn ddelfrydol o gyllid Iechyd canolog Llywodraeth Cymru i ategu'r cyllid Tai ) ac y dylai hefyd fod ar gael i denantiaid tai cymdeithasol, fel cydnabyddiaeth o'r buddion uniongyrchol i iechyd yn nhermau ataliaeth ac oedi wrth drosglwyddo gofal.

·         Mae'r rhaglen Grant Byw'n Annibynnol yn rhoi hyblygrwydd  ar gyfer gwaith yn costio rhwng £1000 a £10,000 a daeth gwerthusiad annibynnol i'r casgliad ei fod yn gweithio yn nhermau galluogi arloesedd ac amserau aros byrrach. Dylid ariannu'r rhaglen hon yn flynyddol. Byddai hyn yn sicrhau y gall y buddion cydnabyddedig gael eu cyflenwi'n gyson.

·         Parhau i roi sylw cenedlaethol i fanteision cost i wasanaethau statudol o ddarparu addasiadau cyflym i gartrefi i sicrhau blaenoriaeth wleidyddol leol a swyddogion a chyllid digonol i ateb y galw.